Eiriolaeth 2.0Eiriolaeth 2.0 - Grym a Chynryciolaeth i Ddefnyddwyr ar y We Newydd

Mae defnyddwyr yn dweud eu dweud ac yn esgor ar newid trwy ddulliau dylanwadu ar-lein, yn ôl adroddiad newydd gan Gyngor Defnyddwyr Cymru.

Mae’r adroddiad, eiriolaeth 2.0, yn pwyso a mesur sut mae datblygiadau newydd y rhyngrwyd yn rhoi’r gallu i ddefnyddwyr i weithredu ar y cyd a herio’r driniaeth annheg ac anfantais sy’n dod i’w rhan.

Datganiadau i'r wasg | Addroddiad Dogfen PDF


Grŵp Cynllunio Gwasanaethau Gofal Lliniarol

Diben y grŵp ydy sefydlu safon ar gyfer gwasanaethau gofal lliniarol hanfodol yng Nghymru a phennu dull o fesur ansawdd gofal.

Rydyn ni’n gwneud cais am sylwadau ysgrifenedig ar beth yn union y dylid ei ystyried yn wasanaeth gofal lliniarol hanfodol ac felly’n gymwys ar gyfer cyllido’r tymor hir gan Lywodraeth y Cynulliad.

Cliciwch yma am ragor o fanylion


Prif Weithredwr y Cyngor Defnyddwyr Cenedlaethol Newydd

Heddiw cyhoeddodd y Gweinidog dros Faterion Defnyddwyr, Gareth Thomas, fod Ed Mayo wedi’i benodi’n Brif Weithredwr y Cyngor Defnyddwyr Cenedlaethol newydd.

Bydd y Cyngor newydd yn dechrau ar ei waith ym mis Hydref 2008. Bydd yn uno’r Cyngor Defnyddwyr Cenedlaethol cyfredol, Golwg ar Ynni a Golwg ar Bost i greu sefydliad mwy grymus a symlach ar gyfer defnyddwyr. Mae’r penodiad hwn yn un o nifer o gamau sydd angen eu cymryd i sefydlu hyn yn ffurfiol.

Cliciwch yma am ragor o fanylion (linc y saesneg)

Y cyhoeddiadua diweddaraf

Mynd i'r afael a diffyg maeth ymhlith pobl hyn
Dogfen PDF Adroddiad | Mehefin 2008 | 124 KB

Ymgynghori ynglŷn â Thrywydd Ynni Cynaliadwy Cymru
Dogfen PDF Ymatebion ymgynghori | Mai 2008 | 90 KB

Ymchwilio i’r Marchnadoedd Cyflenwi Ynni
Dogfen PDF Ymatebion ymgynghori | Ebrill 2008 | 96 KB

Cynllun Iaith Cyngor Defnyddwyr Cymru
Dogfen PDF Adroddiad | Ebrill 2008 | 95 KB

Blogwe
Ein gwaith ni

Mae Cyngor Defnyddwyr Cymru yn gwneud gwahaniaeth ymarferol i fywydau defnyddwyr ar hyd a lled Cymru.  Mae'n defnyddio ei arbenigedd ym maes anghenion defnyddwyr i ddadlau dros newid.

Gwefannau cysylltiedig